“Yn ogystal, byddwn hefyd yn comisiynu adolygiad annibynnol i adnabod y camau sydd eu hangen er mwyn i’r blaid fod yn wirioneddol rydd o ddiwylliant o gasineb at fenywod, ac i hyrwyddo, amddiffyn ac ymestyn cyfranogiad menywod ym Mhlaid Cymru ac mewn gwleidyddiaeth yn ehangach mewn modd rhagweithiol ac ystyrlon,” meddai.