Wrth gael ei holi a oedd hi’n deg bod yr Eisteddfod yn mynd i’r fan honno yn hytrach na lleoliad arall yn y sir dywedodd Mr Fychan: “Mae cael safle addas ar gyfer Eisteddfod yn anoddach na fyddai rhywun yn ei ddisgwyl, mae angen digon o le, digon o le sych, digon o le gwastad, angen ystyried traffig a phopeth felly, a ‘da ni’n gwybod fod safle Meifod yn un sy’n gweithio – mae’n safle braf.”