Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod pobl ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol o dalu mwy am wasanaethau neu gynnyrch os yw’n cael ei werthu drwy’r Gymraeg.
Yn ôl gwaith ymchwil gan Brifysgol Bangor fe allai’r Gymraeg gyfrannu lot i fusnesau yng Nghymru, ac mae hynny’n cael ei gefnogi gan gynllun Bwrlwm Arfor sydd wrthi’n cynnig grantiau i fusnesau am wella eu darpariaeth o’r iaith.
Yn ôl dynes o Wynedd a sefydlodd gwmni ddwy flynedd yn ôl, mae’r iaith wedi bod yn fodd o ddenu cwsmeriaid newydd yn ogystal â marchnata llwyddiannus.
Mae cynllun Bwrlwm Arfor yn gweithredu o fewn siroedd sy’n cael eu hystyried yn gadarnleoedd i’r iaith Gymraeg – Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin.