Cyn hir roedd hi’n dywyll fel bol buwch, fel na fedrai dyn weld ‘na dor ei law na dir ei wlad’:
Mynnwn ar ben y mynydd
Fy mod cyn dyfod y dydd.
Roedd pawb yn yr un cyflwr ofnus:
Gwaedd fawr fel gweddi a fu
A roesom ar yr Iesu –
Ac yn sydyn daeth golau dydd. O bell gwelai’r bardd Ddinas Maelor Gawr, y bryngaer uwchben Aberystwyth, ei gartref. Ond cynddrwg oedd yr olwg arno fel nad oedd neb yn ei adnabod:
Mor llesg y deuthum i’r lan,
Ni wyddai neb pwy oeddwn;
Pwy, pwy, meddynt, yw hwn.
Ond:
Cyrch i’m tref cynefin,
Cyn y nos, cawn yno win.
Eistedd gyfanedd fu i’n,
Lawlaw â Siôn Lywelyn.
Taerodd nad elai byth i Enlli oni ddelai’n nes at y tir mawr.
Profiad gwahanol eto a gafodd y bardd o Geredigion, Deio ab Ieuan Du. Rhaid ei fod wedi cael mordaith braf, heb aberthu ei gyllau i Swnt Enlli. Ond croeso salw a gafodd gan Fadog yr abad: dim cig, dim pysgodyn, dim cimwch, dim gwin – dim byd ond caws.
Felly canodd Deio awdl ddychan i’r abad – Awdl y Caws. Mewn saith deg llinell gynganeddol, arllwysodd Deio ei gynddaredd ar ben yr abad, druan. Doedd dim byd yn ei gegin ond caws, yn wir:
Pob congl o’i dŷ, pob cyngaws – oedd lawn
O laeth geifr a melgaws;
Nid oedd nen heb hufengaws,
Na chell na ba faidd a chaws.
Ei ginio Nadolig, ei saws a’i win – caws oedd y cyfan. I grynhoi:
Caws gwyn, caws melyn, caws molog – llydain,
Caws tew o laethfain, caws tylwythog;
Caws sut, caws eglur, caws mysoglog,
Caws newydd beunydd, caws sebonog,
Priddlyd caws hefyd, gaws hafog – sychgras,
Caws profadwy, glas, cas pryfedog.
Tybed beth oedd ymateb Madog?