Mi fyddai nifer helaeth o rieni newydd yn cytuno mai’r wythnosau cyntaf gyda babi bach yw’r cyfnod mwyaf heriol o ran blinder a diffyg cwsg. Un sy’ wedi profi hyn ond gyda’r cymhlethdod ychwanegol o gamerâu yn ei dilyn yw’r cyflwynydd tywydd Tanwen Cray.
Mae cyfres deledu newydd Tanwen & Ollie yn dilyn Tanwen a’i phartner, pêl-droediwr Abertawe Ollie Cooper, yn yr wythnosau sy’n arwain at enedigaeth eu merch ac yn rhoi cipolwg ar wythnosau cyntaf Neli Meillionen Awen Cooper, cafodd ei geni ddiwedd mis Ionawr.
Felly sut beth yw delio gyda beichiogrwydd a babi newydd gyda camerâu yn eich dilyn?
Meddai Tanwen mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw: “Oedd e’n rili anodd ar y dechrau. O’n i’n meddwl bydde fe’n rili hawdd ond ti’n cael camerâu i ddilyn ti yn dy fywyd personol di sy’n actually rili preifat.
“Ti ddim yn sylwi (nes i hynny ddigwydd) faint ti’n lico cadw pethau yn breifat. Ond ‘nath Ollie ddweud fydd e’n beth rili neis i edrych nôl arno pan mae Neli’n hŷn a ni ‘di rili joio – dwi’n edrych mlaen i weld y bennod gyda’r parti bwmp a phan mae Neli’n cyrraedd a pha mor fach oedd hi. Dwi’n rili, rili gyffrous.”