Ar raglen Fy Stori Fawr Radio Cymru, mae Rhys yn egluro eu bod nhw wedi penderfynu mynd i ysbyty yn Gaza er mwyn siarad gyda phobl oedd wedi eu hanafu.
Dim ond newydd gyrraedd Gaza oedden nhw. Ar ôl gadael eu bagiau yn y tŷ lle’r oedden nhw’n aros, aeth y tri ohonyn nhw at feddau lle’r oedd teuluoedd yn galaru am y bobl oedd wedi marw.
Y noson honno aethon nhw i’r ysbyty, lle cawson nhw eu cipio.
Wrth siaarad ar y rhaglen dywedodd Rhys: “Ar ôl dipyn, dyma ‘na gang o ddynion yn ein hamgylchynu ni efo gynnau ar y ward yn yr ysbyty a ddim yn dallt gair, wrth reswm, ond o’dd ‘na gecru.
“Mi gawson ni ein hebrwng o’r ward gan wyth neu 10 o ddynion i fewn i ryw stafell. Odd hi’n dipyn o ffrwgwd erbyn hynny. O’n i ddim yn dallt be’ o’dd yn digwydd.”
Mae Rhys yn cofio bod y dynion “wedi mynd ag Eifion i rwle arall – dwi ddim yn gwybod lle – efo rhyw bedwar dyn”.
“Nathon nhw gadw fi ac Amjed Tantesh yn yr ysbyty ac a’th y cecru mlaen am orie.”