Gan ei bod hi, bryd hynny, o fewn cyfnod 90 diwrnod y waranti gan Cazoo, fe wnaeth hi adrodd y broblem iddyn nhw.
“Fe ddywedon nhw mai’r unig beth allwn i ei wneud oedd gwneud cais i fod yn gredydwr, a gallwn gael rhywfaint o’r pres yn ôl,” meddai Ms Rylands.
“Dwi’n amau fy mod i yng nghefn rhyw giw hir, a gallai hi gyrraedd y pwynt lle does dim arian ar ôl i bobl fel fi.”
Dywedodd Ms Rylands ei bod hi wedi talu dros £1,000 i drwsio’r car.
Fe gysylltodd hi hefyd â The Warranty Group, sydd bellach yn rhan o grŵp Assurant, i drafod y waranti estynedig yr oedd hi wedi talu amdano.
Cafodd hi wybod na fyddai’r waranti hwnnw yn talu am y gwaith trwsio, gan fod y broblem yn bodoli cyn i’r waranti ddechrau.