Wrth ymateb i gwestiwn am ei ddyfodol, dywedodd Page: “Dim fi ydy’r person i’w holi am hynny. Dim ond y bwrdd, y prif weithredwr, y llywydd a’r cyfarwyddwr technegol fyddai’n gallu ateb hynny.
“Ar ôl cyfnodau gemau rhyngwladol ry’n ni wastad yn cynnal trafodaethau gyda Dave Adams [cyfarwyddwr technegol], Steve Williams [llywydd] a Noel Mooney [prif weithredwr] ac wrth gwrs fe fyddwn ni’n trafod hynny.
“Un ffordd neu’r llall, fe fyddwn ni’n penderfynu beth sydd orau i Gymru ac yn symud ymlaen.
“Mae’r canlyniadau cyn yr wythnos hon wedi bod yn weddol, ond pan ‘da chi’n cael gêm gyfartal yn erbyn Gibraltar ac yn ildio goliau fel ‘da ni wedi ei wneud heno, mae cwestiynau am godi, a dwi’n deall hynny.
“Dwi’n canolbwyntio ar yr hyn dwi angen ei wneud. ‘Da ni wedi ‘neud yr hyn yr oedden ni’n bwriadu ei wneud – arbrofi gyda siâp gwahanol i’r tîm – a nawr ry’n ni’n paratoi at fis Medi.”