Mae ‘na alw am fwy o “swyddi da” er mwyn cadw pobl ifanc i weithio ar Ynys Môn.
Daw hyn wrth i’r ynys weld mwy o bobl rhwng 15 a 29 oed yn gadael yr ynys na sy’n symud i fyw yno dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
I Osian Roberts, syn paratoi i ddechrau ei swydd ddelfrydol, dywedodd ei fod yn “siom gorfod symud o’r ardal”.
Mae Osian yn astudio peirianneg awyrennol yng Ngholeg Menai Llangefni cyn mynd ymlaen i weithio i Airbus.
Ag yntau wedi gorfod gadael ei fro er mwyn gwneud hynny, dywedodd: “Dwi ‘di bod yn lwcus i gael y swydd dwi ‘di cael gyda chwmni mawr, yn enwedig achos does dim swyddi sy’n talu’r fath o arian mae Airbus yn talu o gwmpas yr ardal yma”.
Ychwanegodd ei fod yn “siom gorfod symud o’r ardal, ond does dim dewis. Mae angen mwy o swyddi da yma i newid pethau.”