Ers tro, mae Bellamy wedi dweud mai ei freuddwyd fyddai rheoli ei wlad a bu’n cyfarfod swyddogion Cymdeithas Bêl-droed Cymru yr wythnos ddiwethaf.
Roedd ‘na drafodaethau hefyd gyda seren Arsenal Thierry Henry, rheolwr Georgia Willy Sagnol a rheolwr Oxford United, Des Buckingham.
Ond y gred ydi mai Bellamy wnaeth greu argraff yn ystod y trafodaethau hynny ac mai fo fydd yn arwain y tîm yn ystod eu hymgyrch ar gyfer Cwpan y Byd 2026.
Dim dyma’r tro cyntaf i Bellamy geisio am y rôl, wedi iddo gael ei gyfweld ar ôl i Chris Coleman adael yn 2017.
Er iddo greu argraff yn y cyfweliadau hynny, Ryan Giggs gafodd ei benodi yn rheolwr.
Y disgwyl yw mai ei gêm gyntaf fel rheolwr fydd y gêm yn erbyn Twrci ar 6 Medi yng Nghynghrair y Cenhedloedd, cyn i Gymru deithio i Montenegro ar 9 Medi.