Mae cael siarad Cymraeg ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd wedi bod yn “brofiad cwbl arbennig” medd bachgen 11 oed o Slofacia.
Mae Matko yn byw yn Poprad, yn nwyrain Slofacia, ac yn ogystal â siarad Cymraeg mae e wedi cael cyfle i gwrdd wyneb yn wyneb â’i athrawes Cymraeg ar faes y Steddfod.
Sioned Rees Jones wnaeth sefydlu Ysgol Sadwrn yn 2023, ac mae yn cynnig dosbarthiadau Cymraeg rhyngwladol ar-lein i blant.
Wrth siarad â Cymru Fyw ar faes yr Eisteddfod, dywedodd Sioned ei bod wrth ei bodd yn cyfarfod Matko.
“O’dd hi mor wych bod bachgen sydd wedi bod yn dod i Ysgol Sadwrn ers y cychwyn cyntaf wedi dod i’r Eisteddfod ac i ni gael cyfarfod wyneb yn wyneb, gyda’i dad.
“Mae wedi teithio yma ar wyliau, dod i Gaerdydd ac yna treulio deuddydd yn yr Eisteddfod.”