Ceisio aros yn bositif cyn cael ei chanlyniadau roedd Millie, 16 o’r Porth yn Rhondda Cynon Taf, sydd “bendant yn nerfus”.
Roedd hi’n disgwyl cymysgedd o raddau ddydd Iau ar ôl amryw o dreialon yn ystod y cyfnod arholi – gan gynnwys gadael y neuadd ynghanol arholiad Saesneg gan nad oedd yn teimlo’n dda.
Roedd sefyll arholiadau gyda ADHD (Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd) yn anodd oherwydd y newid i’r drefn arferol, felly i Millie “nid y gwaith rwy’n poeni amdano fe, ond sut ddes i i ben â’r arholiadau”.
Ei bwriad yw mynd nôl i’r chweched dosbarth i ddilyn cyrsiau Lefel A, ac o bosib ailwneud rhai pynciau TGAU.
Ond beth bynnag y canlyniadau, mae hi’n falch “achos gwnes i fy ngorau”.