Gallai hyd at 40,000 o gartrefi ar draws Sir Conwy golli cyflenwad dŵr wedi i bibell fyrstio mewn safle trin dŵr.
Dywedodd Dŵr Cymru bod 8,000 o gartrefi wedi colli cyflenwad nos Fercher, a bod hyd at 33,000 o gartrefi mewn perygl o golli eu cyflenwadau ddydd Iau.
Mae Dŵr Cymru yn dweud eu bod yn gweithio i drwsio pibell ddŵr yn safle Bryn Cowlyd, Dolgarrog a wnaeth fyrstio prynhawn ddydd Mercher.
Mae pedair ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd yn Sir Conwy, dolen allanol ar gau oherwydd y broblem yn ogystal a rhai o gyfleusterau’r cyngor.
Mae’r digwyddiad yn effeithio ar gyflenwadau yng Nghonwy, Dolgarrog, Eglwysbach, Groesffordd, Gwytherin, Henryd, Llanbedr y Cennin, Llanddoged, Llanfair Talhaearn, Llangernyw, Maenan, rhannau o Lanrwst, Pandy Tudur, Pentrefelin, Rowen, Rhyd y Foel, Tal y Bont , Tal y Cafn, Tyn Groes a Trofarth.