Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas – un o ffigyrau gwleidyddol mwyaf blaenllaw a lliwgar Cymru dros yr hanner canrif ddiwethaf – wedi marw yn 78 oed.
Roedd Dafydd Elis-Thomas yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd – Meirionnydd Nant Conwy yn ddiweddarach – rhwng 1974 a 1992, pan ddaeth yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi.
Bu hefyd yn arweinydd ar Blaid Cymru rhwng 1984 a 1991, gan eistedd fel Aelod Cynulliad – ac yna Aelod o’r Senedd – rhwng 1999 a 2021.
Ef oedd Llywydd cyntaf y Cynulliad, gan wasanaethu tan 2011.
Wrth gyhoeddi ei farwolaeth fore Gwener, dywedodd ei deulu ei fod wedi marw yn dawel ei gartref yn dilyn salwch byr.