Yn ôl Vikki Howells, mae’r cynnig i ddod a chwrs nyrsio’r brifysgol i ben yn “hynod siomedig”.
Dywedodd “Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda phrifysgolion eraill yn yr ardal ac yn hyderus, os bydd Caerdydd yn bwrw ymlaen â’r cynlluniau anffodus hyn i dorri eu hysgol nyrsio, y gallwn ail-leoli’r lleoedd hynny i sefydliadau cyfagos.”
Byddai hyn er mwyn sicrhau “nad oes bygythiad i’r targed o nyrsys yr ydym yn edrych i’w recriwtio” meddai.
Aeth ymlaen i ddweud bod “trafodaethau yn parhau” ac nid oes modd manylu ar yr opsiynau ym mhellach.
Er hyn, dywedodd ei bod yn “hyderus y gallwn gynnal lleoedd nyrsio cyffredinol yn y rhanbarth a hefyd ledled Cymru.”
Mae Prifysgol Caerdydd eisoes wedi dweud bod y cynigion er mwyn “diogelu dyfodol hirdymor” y sefydliad.