Mewn llythyr ar y cyd, mae’r NSPCC a nifer o elusennau eraill wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i “sicrhau fod plant yn fwy diogel ar blatfformau negesu preifat”.
Mae’r elusen yn honni fod pobl ifanc yn cael eu targedu a’u twyllo ar-lein, gyda rhai troseddwyr yn defnyddio platfformau negesu i’w gorfodi i rannu lluniau anweddus.
“Mae’r troseddau hyn yn achosi niwed a thrallod ofnadwy i blant, gyda’r cynnwys anghyfreithlon yma yn aml yn cael ei wylio a’i rannu ar-lein,” meddai Chris Sherwood, prif weithredwr NSPCC.
“Mae’n gywilydd ein bod ni’n dal i weld hyn yn digwydd yn 2025, a bod cwmnïau technoleg yn gwneud cyn-lleied i gael gwared a’r cynnwys yma o’u gwefannau.
“Mae angen i’r llywodraeth egluro sut y maen nhw am weithredu er mwyn rhoi stop ar y gamdriniaeth yma ar wasanaethau negesu preifat a sicrhau fod cwmnïau technoleg yn cadw plant yn ddiogel… does dim esgus am oedi neu ddiffyg gweithredu.”