Bellach, mae’n byw yn Texas ond yn bwriadu symud yn ôl i Gymru eleni ac mae am glywed mwy o Gymraeg yn Sir Benfro.
“Dwi ddim yn deall Sir Benfro… gallech chi fod mewn un lle ac mae pawb yn siarad Cymraeg, a pum munud lawr y lôn does neb yno’n siarad Cymraeg,” meddai.
“Dwi’n gobeithio dysgu mwy wyneb yn wyneb ar ôl dod yn ôl.”
Mae’n gobeithio “dangos i bobl leol, dydy e ddim yn rhy anodd, dydych chi ddim yn rhy hen, does dim ots os dydych chi ddim yn siarad Cymraeg perffaith, mae unrhyw beth yn well na dim”.