Mae tri pherson wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiadau’n ymwneud â thwyll gwerth £5m mewn coleg chweched dosbarth.
Fe wnaeth Nadeem Sarwar, 48 o Bentwyn bledio’n ddieuog i naw cyhuddiad o dwyll a dwyn a oedd yn dod i gyfanswm o fwy na £5m.
Fe wnaeth Yasmin Sarwar o Gyncoed, bledio’n ddieuog i’r naw cyhuddiad yn ei herbyn, sydd hefyd yn cynnwys twyll a dwyn.
Fe wnaeth Ragu Sivapalan, 39 o Ben-y-lan, bledio’n ddieuog i gyhuddiad o gyfrifyddu anwir rhwng Ionawr 2013 a Gorffennaf 2016.
Roedd y tri yn gyfarwyddwyr neu’n ymddiriedolwyr yng Ngholeg Chweched Dosbarth Caerdydd.
Bydd yr achos yn eu herbyn yn dechrau fis Medi 2026, ac mae’r tri wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.