Clywodd y cwest hefyd gan swyddog heddlu oedd yn padlfyrddio yn yr ardal gyda’i bartner ar y pryd.
Yn ôl Tyler Rowland, roedd saith o bobl yn eu harddegau ar y pier tua 19:00, gyda rhai i mewn yn y dŵr.
Fe welodd tri yn nofio yn ôl at y lan, ac fe ddywedodd wrth y cwest ei fod wedi clywed un yn dweud: “Mae o wedi mynd”.
Dywedodd Mr Rowland fod un person ifanc wedi dweud wrtho fod ei ffrind “wedi mynd dan y dŵr a heb ddod yn ôl fyny”.
Fe nofiodd Mr Rowland draw at y grŵp wrth iddyn nhw chwilio am David.
Clywodd y gwrandawiad ei fod wedi deifio sawl tro, ac ar ôl dod o hyd i gorff David fe gafodd gymorth i’w gario i’r lan.