News
  • Login
  • Home
  • News
  • Sport
  • Worklife
  • Travel
  • Reel
  • Future
  • More
Wednesday, January 28, 2026
No Result
View All Result

NEWS

3 °c
London
8 ° Wed
9 ° Thu
11 ° Fri
13 ° Sat
  • Home
  • Video
  • World
    • All
    • Africa
    • Asia
    • Australia
    • Europe
    • Latin America
    • Middle East
    • US & Canada

    Australia firefighters battle ’emergency level’ blazes

    Trump says US will ‘no longer help Iraq’ if it picks Maliki as PM

    Ex-Nigeria oil minister in bribery trial spent £2m at Harrods, court hears

    Some Asia airports screen passengers after outbreak in India

    Former French senator found guilty of drugging MP

    Former Olympian Ryan Wedding pleads not guilty to drug kingpin charges

    Iran protesters describe personal toll of crackdown

    Carney denies walking back Davos speech in phone call with Trump

    Perth plaza evacuated after man throws device into crowd

  • UK
    • All
    • England
    • N. Ireland
    • Politics
    • Scotland
    • Wales

    ‘Half measures’ and ‘Fake jobs for sale’

    Cruck Cottage at Torthorwald hopes to upgrade visitor offering

    Swansea mum hopes new drug could help son, five, with dementia

    Talks with independent care workers paused since pay deal ‘U-turn’

    Prime Minister Sir Keir Starmer flies to China for three-day visit

    Emergency services at scene of lorry in river in North Gorley

    Travelling with a man I’d known for two days changed my life forever

    US set to move tanker captain from UK waters ‘imminently’, court hears

    Storm Chandra to bring flooding and travel disruption to Wales

  • Business
    • All
    • Companies
    • Connected World
    • Economy
    • Entrepreneurship
    • Global Trade
    • Technology of Business

    EasyJet ad banned for claiming bags available for £5.99

    Ryanair fares to rise as passenger numbers forecast to surge

    Why Trump is hitting the road to rally Americans on the economy

    Trump raises US tariffs on South Korea imports to 25%

    Airlines pay out millions after initially rejecting claims

    Gold tops $5,000 for first time ever, adding to historic rally

    Wage growth slows as number of people employed falls

    The Manchester community shop selling groceries at huge discounts

    UK inflation rises for first time in five months

  • Tech
  • Entertainment & Arts

    Dancers say Lizzo ‘needs to be held accountable’ over harassment claims

    Freddie Mercury: Contents of former home being sold at auction

    Harry Potter and the Cursed Child marks seven years in West End

    Sinéad O’Connor: In her own words

    Tom Jones: Neighbour surprised to find singer in flat below

    BBC presenter: What is the evidence?

    Watch: The latest on BBC presenter story… in under a minute

    Watch: George Alagiah’s extraordinary career

    BBC News presenter pays tribute to ‘much loved’ colleague George Alagiah

    Excited filmgoers: 'Barbie is everything'

  • Science
  • Health
  • In Pictures
  • Reality Check
  • Have your say
  • More
    • Newsbeat
    • Long Reads

NEWS

No Result
View All Result
Home UK Wales

Cyn-ymosodwr Cymru a Newcastle United, Wyn Davies wedi marw

July 17, 2025
in Wales
7 min read
250 3
0
492
SHARES
1.4k
VIEWS
Share on FacebookShare on Twitter


Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cefnogwyr Newcastle yn cyfeirio at Davies fel ‘Wyn the Leap’ oherwydd ei ddoniau yn yr awyr

Wedi ei ddiweddaru 3 munud yn ôl

Mae cyn-ymosodwr Cymru, Wyn Davies wedi marw yn 83 oed.

Yn ogystal ag ennill 34 cap dros ei wlad, fe chwaraeodd i glybiau yn cynnwys Newcastle United, Manchester City a Manchester United yn ystod ei yrfa.

Yn wreiddiol o Gaernarfon, cafodd plac yn nodi campau Davies ei ddadorchuddio ym Maes Barcer yn y dref yn 2018.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod yn “drist i glywed” am farwolaeth Davies a’u bod yn cydymdeimlo gyda’i deulu a’i ffrindiau.

Dechreuodd Wyn Davies ei yrfa bêl-droed yn chwarae gyda chlybiau lleol yn ardal Caernarfon, gan gynnwys Deiniolen a Llanberis.

Cafodd ei arwyddo gan glwb Caernarfon, ac yno fe ddechreuodd ei ddawn o flaen y gôl ddenu sylw clybiau proffesiynol.

Fe ymunodd â Wrecsam ar ddechrau’r 1960au, cyn symud i Bolton Wanderers ym 1962.

Sgoriodd Wyn 66 gôl mewn 155 gêm gynghrair i Bolton cyn symud i Newcastle United am £80,000 ym 1966 – pris oedd yn record i’r clwb ar y pryd.

Daeth yn arwr ar Barc St James oherwydd ei ymroddiad ar y cae gyda’r Toon Army yn ei alw’n ‘Wyn the Leap’ a ‘The Mighty Wyn’ oherwydd ei ddoniau yn yr awyr.

Tim Cymru ar gyfer gem yn erbyn Lloegr yn 1964Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Wyn Davies (dde, rhes gefn) 34 o gemau i Gymru

Fe enillodd ei gap cyntaf dros ei wlad ym 1964 mewn gêm yn erbyn Lloegr yn Wembley, a daeth yr olaf yn erbyn Gwlad Pwyl ym 1973.

Treuliodd mwyafrif rhan olaf ei yrfa gyda gwahanol glybiau yng ngogledd orllewin Lloegr.

O Newcastle fe symudodd i Manchester City, cyn arwyddo i Manchester United flwyddyn yn ddiweddarach.

Fe dreuliodd gyfnodau gyda Blackpool, Stockport County, Crewe Alexandra a Cape Town City yn Ne Affrica hefyd.

Bu’n rhaid iddo ymddeol o’r gêm broffesiynol oherwydd anaf i’w ben-glin ond llwyddodd i chwarae llond llaw o gemau i Fangor cyn ymddeol o’r gamp yn gyfan gwbl.

‘Colled anferthol i’r byd pêl-droed’

Dywedodd Malcolm Allen, un arall o ardal Gaernarfon aeth ymlaen i chwarae i Gymru a Newcastle, fod Wyn Davies yn chwaraewr ac yn berson arbennig.

“Ti ddim yn mynd i chwarae i glybiau fel Manchester United, Man City, Newcastle, Bolton ‘sa chdi ddim yn chwaraewr da, a ‘da ni’n gwybod pa mor anodd ydi o i fynd o’r gornel yma o Gymru i fynd ymlaen a serennu yn y byd pêl-droed.

“Pan o’n i’n siarad efo Wyn tro diwethaf i mi weld o, oedd o’n sôn am faint o groeso oedd o’n dal i gael yn Newcastle United, a faint o falchder oedd ganddo fo yn mynd nôl yno ar ôl sgorio gymaint o goliau.

“Mi oedd Newcastle United yn agos iawn i’w galon o… a pan ddes i wybod am ei farwolaeth o, cefnogwr Newcastle wnaeth adael i mi wybod – mae hynny’n dweud y cyfan.”

“Yng Nghaernarfon mae o’n arwr anferthol, fydd neb yn ei anghofio fo yma… Mi oedd o’n ysbrydoliaeth i chwaraewyr eraill yn yr ardal, ac wedi agor y drws mewn ffordd i chwaraewyr eraill gael mynd.

“Fel dyn, roedd o’n fonheddwr, roedd ganddo amser a chariad i bawb ac mae’n golled anferthol i’r byd pêl-droed.”

Disgrifiad,

Wyn Davies yn siarad mewn digwyddiad i ddadorchuddio plac sy’n nodi ei gampau yn 2018

Cyn y seremoni i ddadorchuddio’r plac yng Nghaernarfon yn 2018, dywedodd y trefnydd Alun Davies: “Heb os, Wyn yw’r gorau o unrhyw gamp i ddod o Gaernarfon.

“Nid yn unig mae o’n arwr yma yn ei dref enedigol, ond mae o dal i fod yn ffigwr poblogaidd ymysg cefnogwyr Newcastle United, ar ôl iddo fod yn rhan o’r tîm a enillodd y Fairs Cup yn 1969.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Rydym yn drist i glywed am farwolaeth cyn-ymosodwr Cymru, Wyn Davies.

“Mae meddyliau pawb yn y Gymdeithas gyda theulu a ffrindiau Wyn Davies yn ystod y cyfnod anodd hwn.”



Source link

Tags: CymruCynymosodwrDaviesmarwNewcastleUnitedwediWyn

Related Posts

Swansea mum hopes new drug could help son, five, with dementia

January 28, 2026
0

Tammy McDaidTammy McDaid hopes Tate, five, will be able to access the drug if it is approved in the...

Storm Chandra to bring flooding and travel disruption to Wales

January 27, 2026
0

Storm Chandra is to bring flooding and travel disruption to Wales, with yellow wind and rain warnings in place.It...

Penarth mum ‘begged’ for MRI which revealed cervical cancer

January 26, 2026
0

Jessica MasonJessica says women-specific health issues are too often dismissedA woman with cervical cancer who waited years to be...

  • Australia helicopter collision: Mid-air clash wreckage covers Gold Coast

    522 shares
    Share 209 Tweet 131
  • UK inflation: Supermarkets say price rises will ease soon

    515 shares
    Share 206 Tweet 129
  • Ballyjamesduff: Man dies after hit-and-run in County Cavan

    510 shares
    Share 204 Tweet 128
  • Somalia: Rare access to its US-funded 'lightning commando brigade

    508 shares
    Share 203 Tweet 127
  • Google faces new multi-billion advertising lawsuit

    508 shares
    Share 203 Tweet 127
  • Trending
  • Comments
  • Latest

Australia helicopter collision: Mid-air clash wreckage covers Gold Coast

January 10, 2023

UK inflation: Supermarkets say price rises will ease soon

April 19, 2023

Ballyjamesduff: Man dies after hit-and-run in County Cavan

August 19, 2022

Stranger Things actor Jamie Campbell Bower praised for addiction post

0

NHS to close Tavistock child gender identity clinic

0

Cold sores traced back to kissing in Bronze Age by Cambridge research

0

How do they work, what do they cost and are they noisy?

January 28, 2026

‘Half measures’ and ‘Fake jobs for sale’

January 28, 2026

Opening Night ‘a lot of fun to record’

January 28, 2026

Categories

Science

How do they work, what do they cost and are they noisy?

January 28, 2026
0

Andrew Aitchison/Getty ImagesThe government's Warm Homes Plan promises £15bn to help UK households pay for green technologies such as...

Read more

‘Half measures’ and ‘Fake jobs for sale’

January 28, 2026
News

Copyright © 2020 JBC News Powered by JOOJ.us

Explore the JBC

  • Home
  • News
  • Sport
  • Worklife
  • Travel
  • Reel
  • Future
  • More

Follow Us

  • Home Main
  • Video
  • World
  • Top News
  • Business
  • Sport
  • Tech
  • UK
  • In Pictures
  • Health
  • Reality Check
  • Science
  • Entertainment & Arts
  • Login

Copyright © 2020 JBC News Powered by JOOJ.us

Welcome Back!

Login to your account below

Forgotten Password?

Create New Account!

Fill the forms bellow to register

All fields are required. Log In

Retrieve your password

Please enter your username or email address to reset your password.

Log In
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. Visit our Privacy and Cookie Policy.
News
More Sites

    MORE

  • Home
  • News
  • Sport
  • Worklife
  • Travel
  • Reel
  • Future
  • More
  • News

    JBC News