Clywodd yr achos bod yr ymosodiadau wedi effeithio’n ddifrifol ar y dioddefwyr.
Dywedodd mam y ferch 11 oed bod ei merch yn bryderus ac yn ofidus, yn poeni ynghylch mynd allan a chyfarfod pobl.
Ychwanegodd ei bod wedi colli hyder a bod y cyfan wedi amharu ar ei gwaith ysgol.
Mewn datganiad, dywedodd y ferch 15 oed ei bod yn teimlo’n nerfus, ofnus a bregus.
Doedd dim emosiwn ar wyneb Dale yn y doc.
Cafodd ei ddedfrydu i 16 mis o garchar am annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithred rywiol, a saith mis o garchar am ymosod yn rhywiol ar y ferch iau, gyda’r ddwy ddedfryd yn cydredeg.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Emma Partridge bod y ddwy ferch “yn ddewr eithriadol i rannu beth ddigwyddodd iddyn nhw”.
“Mae’r hyn a wnaeth Dale yn dal i gael effaith enfawr ar eu bywydau bob dydd gan gynnwys teimlo’n fregus ar drafnidaeth gyhoeddus ac wrth gerdded ar ben eu hunain.
“Rwy’n gobeithio y bydd dedfryd heddiw’n rhoi rhyw gysur i’r merched ac yn eu helpu i gael eu hyder yn ôl er mwyn symud ymlaen.”














































