Mae’r gwasanaeth tân yn dweud bod y tân wedi creu difrod sylweddol i’r eiddo, ac oherwydd hynny, eu bod wedi methu â chynnal ymchwiliad manylach hyd yma.
Bydd rhaid aros nes bod peiriannydd strwythurol wedi asesu’r adeilad ac wedi cadarnhau ei fod yn ddiogel i fynd i mewn.
Ar hyn o bryd felly, dydyn nhw ddim yn gwybod yn union beth achosodd y tân.
Mae Cyngor Gwynedd wedi “cadarnhau ein bod yn cefnogi unigolion a theuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan y tân yng Ngwesty Queens, Blaenau Ffestiniog, lle’r oedd y sawl a oedd mewn angen o ran tai yn cael eu lletya dros dro”.
Ychwanegodd y llefarydd: “Trefnwyd llety arall ar unwaith a darparwyd eitemau hanfodol i helpu i gefnogi eu lles yn ystod y cyfnod anodd hwn.”