Mae’r feirws Tafod Glas wedi cael ei ganfod mewn tair dafad sydd wedi’u symud i Wynedd o ddwyrain Lloegr.
Dyma’r tro cyntaf i’r math 3 o’r Tafod Glas gael ei ddarganfod yng Nghymru.
Mae ffermwyr yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus a phrynu anifeiliaid o ffynhonnell ddiogel.
Mae’r clefyd yn cael ei ledaenu gan rai mathau o wybed sy’n brathu, ac yn effeithio ar anifeiliaid fel gwartheg, geifr, defaid, ceirw, alpacas a lamas.
Nid yw’n effeithio ar bobl nag ar ddiogelwch bwyd.