Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn buddsoddi’n helaeth mewn gwasanaethau canser i wella diagnosis a mynediad at ofal o ansawdd uchel, ac rydym hefyd wedi lansio rhaglen genedlaethol i gefnogi gwellhad mewn amseroedd aros canser gyda £2 filiwn y flwyddyn am dair blynedd. “
“Mae mynediad at driniaeth canser yn flaenoriaeth ac mae timau a rheolwyr clinigol ar draws yr NHS yng Nghymru yn gweithio’n galed i wella perfformiad.”
Ond mae gan Mr Pugh ffydd yn y Prif Weinidog newydd ac mae eisiau gweld mwy o gydweithio rhwng y byrddau iechyd.
“Mae gen i ffydd. Rwy’n credu y gallwn ni wella, ond mae’n rhaid i ni fod yn onest… Allwn ni ddim meddwl y gall y gweithlu presennol gyflawni ar ei ben ei hun. Mae angen cefnogaeth y llywodraeth, i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni’n gyflym.”
“Mae Vaughan (Gething) yn ymroddedig iawn tuag at ganser ac mae’n gwybod y problemau.”
Mwy ar Politics Wales ar BBC 2 Cymru am 1000 ddydd Sul, ac wedyn ar BBC iPlayer.