Mae’r pwyllgor, sy’n cynnwys aelodau o nifer o bleidiau gwleidyddol, yn gefnogol o fwriad y mesur i gynyddu amrywiaeth yn y Senedd, ac maen nhw wedi gwneud 25 o argymhellion i’w “gryfhau a gwella”.
Mae cadeirydd y pwyllgor, yr aelod Llafur, David Rees, wedi dweud: “Fel pwyllgor, rydym i gyd yn cytuno bod angen i’r Senedd adlewyrchu’n well y bobl y mae’n eu gwasanaethu.
“Wrth gydnabod bod y bil yn rhoi mesurau ar waith a allai gyfrannu at gydraddoldeb o ran cynrychiolaeth yn y Senedd, rydym eisiau gweld newidiadau i gryfhau a gwella’r bil,” dywedodd.
Ychwanegodd: “Nid rôl y pwyllgor yw penderfynu a oes gan y Senedd y pŵer i basio’r bil hwn ond rydym yn pryderu am y dystiolaeth rydym wedi’i chlywed y gallai heriau cyfreithiol darfu ar etholiad 2026, ac felly rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau i reoli a lliniaru’r risg hon.”