Dywedodd yr Athro Morgan, sy’n awdur y llyfr Serving the Public – the good food revolution in schools, hospitals and prisons fod angen codi ansawdd y prydau sy’n cael eu darparu.
“Ni yw’r wlad gyntaf, a’r unig wlad yn y DU sy’n cynnig prydau ysgol am ddim ym mhob ysgol gynradd.
“Mae Cymru wedi ennill clod rhyngwladol am wneud hynny – ond, mae angen i ni godi ansawdd y bwyd hwnnw.”
Roedd yr Athro Morgan yn siarad bron i ddegawd ar ôl ffurfio Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol.
Cafodd y ddeddf – sy’n manylu ar y ffyrdd y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus penodedig weithio, a chydweithio i wella llesiant Cymru – ei chyflwyno yn y Cynulliad (y Senedd bellach) ym mis Ebrill 2015, a daeth i rym y flwyddyn ganlynol.
Ar y pryd, roedd y Cenhedloedd Unedig yn ystyried y ddeddf fel un oedd yn torri tir newydd.
Dywedodd yr Athro Morgan ei bod yn “ddeddf sydd i’w chanmol yn fawr” ond bod yna fwlch rhwng yr hyn y dymunir ei wneud a’r hyn sy’n digwydd.
“Mae angen cysylltu polisïau â phobl,” ychwanegodd.