Dywedodd Joe Rossiter, Cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Materion Cymreig: “Dylai penderfyniadau ar ddyrannu gwariant fod yn anwleidyddol a chynrychioli ffordd dechnegol o sicrhau cyfran deg o gyllid i Gymru.
“Ni ddylai bod rhaid i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ymladd dros gyllid teg.”
Dywedodd Eluned Morgan mai “sicrhau sail i ddyfodol economaidd Cymru” sy’n bwysig iddi “oherwydd dydw i ddim eisiau parhau i fynd ar ofyn” San Steffan”.
“Rydym wedi cael system annheg ers amser hir iawn. Mae angen i ni ddal i fyny. Mae yna ffordd bell i fynd, felly dyma’r dechrau,” meddai.
“Byddwn yn ymladd am lawer eto, ond a oes angen sicrhau bod yna system well fel ein bod yn sicr o gael canran ni’n ei haeddu? Heb os.”