Fel rhan o’r datblygiadau yn San Steffan ddydd Gwener, mae’r Senedd wedi colli’r hawl i benderfynu a fyddai’r mesur yn dod i rym yng Nghymru hefyd.
Fe wnaeth Tŷ’r Cyffredin wrthdroi newid a gafodd ei wneud i’r mesur yn gynharach, a fyddai wedi rhoi’r pŵer i Aelodau’r Senedd benderfynu a fyddai’r gyfraith yn dod i rym yng Nghymru ai peidio.
Ond bellach, bydd modd i’r Senedd basio rheoliadau ar wasanaethau hawl i farw yng Nghymru, ond bydd modd i Lywodraeth y DU wneud hynny hefyd.
Er hynny, mae’r Senedd dal yn wynebu penderfyniad sylweddol ar a ydyn nhw am roi caniatâd i’r ddeddfwriaeth, ac mae disgwyl pleidlais ar hynny yn yr hydref.
Ni fydd yn ymrwymiad cyfreithiol, ond byddai disgwyl iddo gael ei barchu gan Senedd y DU, ac fe allai awgrymu a ydy Llywodraeth Cymru’n fodlon pasio eu rheoliadau eu hunain ynglŷn â sut fyddai’r system yn gweithio.
Ond dyw hi ddim yn eglur beth fyddai’n digwydd pe na bai’r Senedd yn cymeradwyo’r ddeddfwriaeth.