Tro Alun Parrington neu Al Parr yw hi i Ateb y Galw yr wythnos hon.
Mae Al yn prysur gwneud enw iddo fo ei hun fel comedïwr.
Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, mae bellch yn byw yn Rhuddlan, Sir Ddinbych.
Yn 2019 fe ddechreuodd wneud stand-yp ar ôl i ffrind roi ei enw i lawr.
Ers hynny mae’n sgwennu ac actio mewn prosiectau ar gyfer S4C, fel Deli Derfel, Iawn Mêt?, a fo oedd cyflwynydd y noson gomedi gyntaf LGBTQ+ i S4C erioed ei ddangos, sef Ffyrnig nôl yn 2022.