Mae Gareth Elis yn actor, canwr, a chyflwynydd sydd wedi ennill sawl gwobr am ei waith.
Yn wreiddiol o Sir Gâr, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae Gareth yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Pigo dy Drwyn a Mabinogi-Ogi. Mae hefyd yn actor theatr profiadol ac ar fin chwarae rhan Osian yn sioe gerdd roc Nia Ben Aur yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Dyma ddod i ‘nabod Gareth ychydig yn well gyda chwestiynau busneslyd Cymru Fyw.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Bod yng nghôl Mam o flaen y lle tân a hithau’n dweud “Tân fan ‘na Gareth”.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Cefn gwlad Sir Gâr lle ces i’n fagu – y gwyrddni, y bryniau; yn llythrenol ‘Lle i enaid gael llonydd’.
Beth yw’r noson orau i chi ei chael erioed?
Siŵr o fod y noson enillais i’r BBC Audio Award, Best Debut Performance am y ddrama Tremolo llynedd yn Llundain. O’n i’n eistedd drws nesa’ i Toby Jones. Am noson!
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Penderfynol, gweithgar a charedig.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl ‘nôl?
Cyngerdd agoriadol Eisteddfod Sir Gâr 2014. O’n i’n canu Eryr Pengwern yn y gyngerdd. Fe ddechreuodd John Quirk y gerddorfa ac o’n i dal i aros am feicroffon!
O fewn eiliadau roedd tua chwech o dechnegwyr o’m cwmpas i yn rhoi’r mic arna’i, dwi’n cofio meddwl “fi’n mynd i golli dechrau’r gân”. Gwaeddodd John “Back to bar two” a brynodd y deg eiliad oedd angen i mi gyrraedd y llwyfan i ddechrau canu. Y cyfan yn hollol fyw ar S4C!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Wn i ddim sawl gwaith dwi wedi taro mewn i actorion mewn clyweliadau lle dylwn i gofio’u henwau – a cheisio cynnal sgwrs tra’n stryffaglu i drio cofio! Gormod i restru, ofnadwy!
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Yn ddiweddar wrth wylio cyfres ddiweddaraf Welcome to Wrexham. Rhaglen mor ddidwyll sy’n gwneud fi’n falch o fod yn Gymro.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Cnoi fy ngwinedd! Dwi ddim yn ofnadwy, ond hen bryd i fi stopio’n gyfan gwbl!
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Dwi’n dwlu ar Batman: The Dark Knight am berfformiad Heath Ledger fel y Joker. Mae ei wylio yn y rôl honno yn blueprint rhyfeddol o sut mae ymgorffori cymeriad yn llwyr.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Iesu Grist. Galla’i ddim meddwl am unrhyw un sydd wedi cael mwy o ddylanwad ar hanes dynoliaeth. Byddai gen i gymaint o gwestiynau!
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi’n reddfol swil ac yn gallu mwynhau dyddiau ar y tro heb weld neb, dim problem!
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Casglu’r holl bobl dwi’n eu caru i fwyta, dathlu a chwarae gemau o dan yr un to.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Fi a Mam yn yr Eisteddfod pan o’n i tua tair blwydd oed. Mae’r Eisteddfod wedi chwarae rhan enfawr yn fy ngyrfa – o ennill cystadlaethau’r Sioeau Cerdd yn yr Urdd, Genedlaethol a Llangollen hyd nawr yn Nia Ben Aur, a Mam wedi bod ym mhob cynulleidfa. Mae’r llun yna’n teimlo’n addas iawn.
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Bydden i’n dewis Gareth Bale pan oedd ar ei orau i Gymru. Y ffasiwn deimlad o fod yn un o chwaraewyr gorau’r byd, gyda’r pŵer i reoli unrhyw gêm a hynny gyda’r ddraig ar y crys. Rhaid bod hynny’n deimlad arallfydol!