Mae Rhian Cadwaladr yn adnabyddus am ei nofelau ac hefyd am ei ryseitiau blasus sydd wedi’u cyhoeddi mewn sawl llyfr coginio.
Mae’r awdur o Rosgadfan ger Caernarfon ar fin cyhoeddi ei nofel ddiweddaraf ar ddiwedd Mehefin o’r enw Gwaddol.
Nofel yw hi am heneiddio, am deulu, am gariad a galar.
Cyn i’r nofel gael ei chyhoeddi, dyma ddod i adnabod Rhian Cadwaladr ychydig yn well.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Clywed sŵn cân y fan hufen iâ yn y tŷ lle o’n i’n byw tan o’n i’n dair a hanner.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Fy ngardd yn Rhosgadfan yn edrych lawr ar Gastell Caernarfon a draw dros Ynys Môn.
Mae’n olygfa sydd dal i gymryd fy ngwynt er mod i yma ers 36 o flynyddoedd – ac mae’r awyr yn anferth ac yn wahanol bob dydd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mae erioed yn amser hir!
Dwi wedi cael amryw noson gofiadwy ond does dim un yn sefyll allan. Gobeithio bod yr orau eto i ddod!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Creadigol, diamynedd, siaradus.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy’ o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti’n meddwl nôl?
Parti Dolig yn fy ngardd efo tair o fy ffrindiau hynaf yn 2020 adeg Covid, pan oedda ni ddim yn cael mynd i’r tŷ – pawb wedi lapio fel nionod ac yn dawnsio dan y sêr a jest yn falch o gael cwmni’n gilydd unwaith eto.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya’ o gywilydd arnat ti erioed?
Gollwng platiad o chips, bîns a ŵy ar lin cwsmar pan o’n i’n waitress ifanc tair ar ddeg oed, yng nghaffi fy mam.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Wrth wylio rhagen drist ar y teledu ddoe, dwi’n crïo’n hawdd.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes – siarad ar draws pan dwi yn sgwrsio am rhywbeth sy’n golygu lot i mi, sori pawb dwi’n trïo peidio!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Gwallt coch oedd gen i pan o’n i’n ifanc.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Llyfr sgrap llawn rysetiau sydd gen i ers o’n i’n ddeuddeg oed – cychwyn taith oes o arbrofi yn y gegin.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod? Pam?
Mi faswn i’n licio cyfarfod fy nain fuo farw cyn i mi gael fy ngeni, dwi’n gwybod fawr dim amdani ond roedd ganddi enw gwych – Beneth Maglona.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?
Trïo cael fy nheulu yngyd a deud wrthyn nhw gymaint dwi’n eu caru a pa mor falch dwi ohonyn nhw.
Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?
Tydw i ddim yn un i roi lluniau’r teulu hyd y tŷ ond mae gen i un mewn ffrâm wrth fy nesg – fy nhad efo fy mhlant pan oedda nhw’n fach.
Dwi wedi colli dad ers 2001 a dwi dal yn hiraethu amdano, ac am y plantos bach yn y llun.
Petaset ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Comisiynydd drama S4C er mwyn comisiynu troi un o fy nofelau i yn ffilm!