Ychwanegodd bod aelod arall o staff cyfagos yn feichiog felly roedd hi eisiau iddi gadw draw.
Disgrifiodd Ms Elias yr arf fel “cyllell boced gyda llafn arian”.
Ddydd Llun fe glywodd y rheithgor bod y ferch wedi mynd â chyllell bysgota ei thad.
Esboniodd Ms Elias wrth yr heddlu sut wnaeth hi a Liz Hopkin geisio ei rhwystro – roedd y ddwy yn gweiddi am help.
Mae’r deunydd CCTV yn dangos Liz Hopkin yn ceisio rhwystro’r ferch tra bod Fiona Elias yn dianc.
Yn emosiynol yn ei chyfweliad dywedodd Ms Elias fod Liz Hopkin wedi gweiddi, “Fiona, jest cer”.
Wnaeth yr arf ddisgyn i’r llawr am ychydig eiliadau, ac am 11:18 mae’r ferch yn ailafael yn y gyllell bysgota a’n trywanu Liz Hopkin bump o weithiau gan gynnwys yn ei gwddf.
Esboniodd Ms Elias ei bod wedi rhedeg mewn i swyddfa’r ysgol gan weiddi “Mae (y ferch) newydd drywanu fi”.
Cafodd Fiona Elias ei rhyddhau o’r ysbyty’r diwrnod hwnnw.
Ymddangosodd y diffynnydd yn Llys y Goron Abertawe – roedd hi’n eistedd gyda’i thîm cyfreithiol yn hytrach nag yn y doc.