Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd tad Sophia eu bod fel teulu wedi eu “llorio” gan ei marwolaeth.
Roedd Alex Kelemen, 27, ei wraig Betty, 26, a’u plant, Lucas a Sophia, ar wyliau yn Ninbych-y-pysgod pan gafodd Sophia ei hanafu.
Yn wreiddiol o Rwmania, mae’r teulu’n gobeithio rhoi eu merch i orffwys yn eu mamwlad cyn gynted ag y bydd ei chorff yn cael ei ryddhau.
Estynnodd y crwner cynorthwyol Gareth Lewis ei gydymdeimlad dwysaf gyda’r teulu.