Ddydd Mawrth dywedodd Rheolwr Diogelwch Dŵr Cyngor Abertawe, Andrew Suter, wrth y cwest nad oedd unrhyw ddigwyddiadau wedi bod ar y safle cyn marwolaeth Kane.
Ers i Kane farw, mae’r ardal wedi cael ei hasesu o ran risg ac mae nifer o arwyddion wedi’u gosod ar hyd y llwybr wrth yr afon, yn rhybuddio am beryglon mynd i mewn i’r dŵr, meddai.
Ychwanegodd fod bwi achub hefyd wedi’i osod ar blatfform pysgota ymhellach i fyny’r afon ac y bydd llwyni draen yn cael eu gosod ger y morgloddiau er mwyn atal mynediad at y pyllau dŵr yno.
Ond pan bwysodd y teulu arno i ailystyried lleoli bwi achub ar y safle, dywedodd Mr Suter y byddai’n asesu’r safle eto.
Ar ddiwedd y cwest dywedodd teulu Kane eu bod yn derbyn bod Kane wedi marw mewn “damwain drasig”.
Fe wnaethon nhw hefyd ddiolch i aelodau’r gwasanaethau brys a geisiodd ei helpu.
Dywedon nhw eu “bod wedi cael cysur o’r ffaith bod y gwasanaethau lleol wedi gwneud newidiadau lle bo angen”.














































