Bydd bwrdd iechyd y gogledd yn parhau o dan fesurau arbennig, er eu bod wedi gwneud cynnydd, yn ôl adroddiad.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod o dan y lefel uchaf o arolygiaeth gan Lywodraeth Cymru ers Chwefror 2023.
Digwyddodd hynny ar ôl cyfres o fethiannau difrifol o ran diogelwch cleifion, perfformiad a llywodraethu, ynghyd â phrinder staff a chyfres o uwch swyddogion gweithredol yn gadael.
Yn ôl adroddiad sydd wedi bod yn edrych ar y cyfnod o ddwy flynedd ers i’r bwrdd iechyd gael ei roi dan fesurau arbennig, mae cynnydd wedi’i wneud mewn amryw o feysydd – gan gynnwys y diwylliant, y trefniadau arwain a llywodraethu, a safonau ansawdd a diogelwch.
Ond mae’n dweud hefyd bod rhai heriau yn parhau, yn enwedig o ran perfformiad gofal sydd wedi’i gynllunio o flaen llaw, a sicrhau mynediad amserol at ofal brys.