Mae’r polisi – a gyflwynwyd ym mis Medi 2023 – yn golygu mai 20mya, yn hytrach na 30mya, yw’r terfyn cyflymder bellach mewn ardaloedd trefol, gyda chynghorau lleol yn gallu gwneud eithriadau.
Ar hyn o bryd mae’r polisi yn cael ei adolygu wedi i bron i hanner miliwn o bobl arwyddo deiseb yn gwrthwynebu’r newid ac mae nifer o arwyddion ffyrdd wedi’u difrodi.
Mae ffigyrau diweddar yn awgrymu bod anafiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya wedi gostwng draean yn chwarter olaf y llynedd.
Cyfaddefodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, yn ddiweddar fod gweithredu deddf 20mya dadleuol Cymru yn creu problemau.
Wrth siarad â’r BBC dywedodd Lee Waters y dylai’r Llywodraeth fod wedi ymgynghori mwy a hysbysu pobl yn well cyn i’r newid ddod i rym.
“Byddai fe wedi bod yn fwy synhwyrol i siarad â phobl a gwrando ar bobl cyn i’r newid ddod i mewn,” meddai.
“Dwi’m yn meddwl bod y llywodraeth gyfan wedi bod gymaint y tu ôl i’r ymgyrch ag ymgyrchoedd eraill – roedd yna lawer mwy o hysbysebu cyn yr ymgyrch rhoi organau, er enghraifft.
“Dwi’n meddwl bod hynny’n gamgymeriad a dwi’n meddwl bod yn rhaid i bawb, gan gynnwys fi, roi eu llaw lan a derbyn y cyfrifoldeb,” ychwanegodd.
Dywedodd Waters hefyd fod rhai cynghorau yn “gyndyn o symud y tu hwnt i lythyren y ddeddf pan oedd ganddyn nhw hyblygrwydd i wneud hynny”.