Lliwiau Mistar Urdd ond hefyd lliwiau’r pafiliynau ble mae’r corau, partïon ac unawdau yn cystadlu. Mae hefyd cystadlaethau ym mhebyll CogUrdd, Trin Gwallt a Harddwch ac Yr Adlen.
Ewch draw i Lwyfan y Cyfrwy ar gyfer y canlyniadau, i weld pwy sydd wedi dod yn fuddugol, neu wedi cael cam.
Os ydych chi’n cystadlu – pob lwc, a mwynhewch!
Yn y Pafiliwn Gwyn mae’r prif seremonïau bob prynhawn am 14.00. Tybed pwy fydd yn ennill y Goron neu’r Gadair eleni?