Roedd tua 600 o bobl mewn dwy brotest wahanol yn y Drenewydd ym Mhowys ddydd Sadwrn.
Cafodd gorymdaith ei chynnal trwy’r dref, a chafodd ei threfnu gan bwyllgor lleol a’i hysbysebu fel protest ‘stopio’r cychod’ – roedd tua 400 o bobl yn bresennol.
Bu’r protestwyr yn llafarganu sloganau yn beirniadu Syr Keir Starmer, y Prif Weinidog a’r llywodraeth Lafur yn San Steffan, a chawson nhw eu hannerch gan Karl Lewis – cynghorydd sir o Bowys a adawodd y Blaid Geidwadol i ymuno â Reform UK ym mis Mawrth.
Yn ystod ei anerchiad, fe arweiniodd funud o dawelwch er cof am Charlie Kirk – yr ymgyrchydd a dylanwadwr asgell dde, a gafodd ei saethu a’i ladd mewn digwyddiad prifysgol yn Utah, yr Unol Daleithiau ddydd Mercher.














































