Roedd disgwyl i gyn ysgrifennydd yr economi, Jeremy Miles, ymgeisio ar ôl i’r BBC gael gwybod bod ganddo ddigon o gefnogaeth i sicrhau ei le yn y ras.
Ond ddydd Sul fe ddywedodd ei fod yn cefnogi Eluned Morgan.
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Llun, dywedodd Jeremy Miles ei fod yn “gobeithio” y byddai Eluned Morgan yn cynnig ei hun gan ddweud fod ganddi hi a Huw Irranca-Davies “y gwerthoedd a’r hyn i ni angen mewn arweinydd ar hyn o bryd”.
Wrth sôn am ei benderfyniad i adael y cabinet yr wythnos ddiwethaf, dywedodd mai dyna “un o’r penderfyniadau mwya’ anodd mewn dros ddeg mlynedd ar hugain o fod mewn gwaith, sef ymddiswyddo o’r Llywodraeth.”
“Roedd e’n benderfyniad anodd iawn iawn, ond yn un oedd yn angenrheidiol o’n safbwynt i, fel bod ni fel plaid yn gallu symud ymlaen
“Mewn bywyd cyhoeddus, ma’ rhaid i chi roi beth i chi’n gweld yw buddiannau’r blaid a’r wlad o flaen penderfyniadau personol,” meddai.
Yr ASau Llafur sydd wedi datgan eu cefnogaeth i Eluned Morgan yw: Jeremy Miles, Jack Sargeant, Mick Antoniw, Huw Irranca Davies, Joyce Watson a Mike Hedges, Dawn Bowden, Vikki Howells a Hefin David.