Gyda dim ond ychydig dros 100 o fridwyr ceffylau gwedd ar ôl ym Mhrydain, mae gŵr ifanc o Wynedd yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd y brîd.
Yn rhinwedd ei swydd fel llysgennad Sir Gaernarfon – y sir nawdd ar gyfer Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni – mae Rhys Eifion Griffith o Benisa’r-waun eisoes wedi sicrhau y bydd ‘na fwy o sylw a mwy o ddosbarthiadau arddangos ar gyfer cewri’r byd ceffylau yn y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf.
“Mae rhif y bridwyr wedi haneru yn ystod y 15 mlynedd dwytha’ i ychydig dros 100 ohona ni”, meddai Rhys wrth siarad ar raglen Post Prynhawn ar Radio Cymru.
“Y llynedd rhyw 200 o gywion a gafodd eu cofrestru. Mae hynny’n reit isel ac yn amlwg mae’r sialensiau gwaed yn mynd yn anoddach – a llai ohono fo.”