Dywedodd Katie mai sylwi ar ddiffyg cyfleoedd yn lleol oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer dechrau’r sgwrs am yr ysgol.
“Pan o’n i’n ifanc nes i wneud drama, jest tu allan i Lerpwl a ‘nes i feddwl pa mor bwysig yw hi i bobl ifanc gael rhywbeth i fynd i weld os ydyn nhw’n ei hoffi – comedi neu ddrama neu rywbeth fel hwn. So, nes i siarad [gyda Kiri] am ddechrau rhywbeth.”
Ychwanegodd Kiri: “Dw i’n cytuno. Pan ‘nes i symud [yn ôl] yma, achos dw i’n dod o Sir Fôn, o’n i wedi penderfynu bod hi’n rili bwysig i drio cefnogi pobl dalentog yn yr ardal a trio defnyddio fy contacts, a jyst trio gwneud rhywbeth i helpu pobl ifanc i wneud comedi yng Nghymru.
“Mae pobl wastad yn symud i Lloegr, Llundain, Manceinion i wneud pethau in the Arts. Mae’n bwysig i mi bod pobl ifanc sy’n byw yn Sir Fôn, sydd isio gwneud comedi neu drama, yn hapus i aros yma.”














































