Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni sy’n rheoli’r adeilad, First Point bod peiriannydd lifft “wedi cwblhau gwaith atgyweirio mawr yn ddiweddar” gan gynnwys adfer ac ailosod motor.
“Er taw adfer y lifft yn llwyr oedd bwriad y gwaith hwnnw, fe amlygodd archwiliad pellach ragor o broblemau.
“Rydym yn gweithio’n agos â’r contractwr lifft i ddatrys rheiny cyngynted â phosib a bydd peiriannydd yna wythnos nesaf i wneud y gwaith angenrheidiol.
“Mae’n ddrwg gennym am y tarfu am nad yw’r lifft ar gael ac rydym yn deall pa mor rhwystredig ac anghyfleus yw hyn i breswylwyr.
“Mae ein tîm yn y safle yn dal yna i helpu gyda symud trwy’r adeilad – gan gynnwys llefydd cadw offer symud a ffyrdd cyrraedd a gadael gwahanol.
“Mae rheolwr datblygu hefyd yn dal ar gael i roi cymorth ychwanegol.”