Cafodd ei sefydlu yn 2016 gan dri ffrind ym mharc Bellevue, Wrecsam, wrth ymyl coeden â thro yn ei boncyff. Nawr, darlun o’r goeden honno yw canolbwynt bathodyn y tîm.
Delwyn Derrick, neu Sheep i’w ffrindiau, oedd un o’r tri ffrind a sefydlodd y tîm. Dywedodd:
“Does dim ateb dwfn am pam sefydlais i’r clwb efo fy ffrindiau. Roedd y cae pêl-droed ar fin cael ei ddadgomisiynu, a’r unig ffordd i rwystro hynny oedd defnyddio’r cae. Felly fe benderfynon ni sefydlu clwb.”
Ar y pryd, roedd Sheep yn chwarae pêl-droed gyda nifer o bobl o ethnigrwydd lleiafrifol, du neu Asiaidd a’r dynion rheiny oedd y rhai a ymunodd â’r tîm.
Dywedodd “Doedd dim un penderfyniad gafodd ei wneud i fod yn dîm cynhwysol ac aml-ethnigrwydd yn benodol.
“Roedd yn ddamwain hapus, fel dw i’n hoffi ei ddweud, ein bod ni wedi syrthio mewn i’r niche pêl-droed yma.”
Bron i ddeng mlynedd yn ddiweddarach mae’r clwb yn dal i dyfu gydag aelodau niwroamrywiol ac aml-ethnig yn dod at ei gilydd i chwarae pêl-droed cystadleuol yn wythnosol.
“Mae gan bob un person sy’n dod i’r clwb yma ei stori ei hun, boed hynny fel chwaraewr, hyfforddwr, gwirfoddolwyr, gweinyddwyr – mae gan bob un reswm dros fod yma – a’r straeon hynny efo’i gilydd sy’n gwneud stori ein clwb ni’n un werth ei dweud,” eglurodd Sheep.