Fe wnaeth Eluned Morgan alw am waredu’r cap fis Mai, ond fe wynebodd feirniadaeth gan Blaid Cymru a ddywedodd ei bod yn ymateb i sefyllfa fregus ei phlaid yn y polau piniwn.
Beth yw ymateb y pleidiau eraill i’r cap?
Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu’r cap, mae Reform wedi galw am ei ddileu, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig yn dadlau mai trethdalwyr fyddai’n gorfod talu am ei waredu.
Byddai dileu’r cap yn costio tua £3bn ac mae’r Canghellor wedi cael ei hannog i godi treth ar y diwydiant gamblo i dalu amdano.
Mae Morgan yn dadlau bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi “defnyddio pob pŵer o fewn ei gallu i wneud gwahaniaeth” gan gyfeirio at brydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd, rhaglen Dechrau’n Deg i blant bach a chynllun peilot incwm sylfaenol i’r rhai sy’n gadael gofal.
Ond mae ymdrechion gweinidogion Cymru hefyd wedi dod o dan y lach ar ôl i darged i ddod â thlodi plant i ben erbyn 2020 gael ei ddileu yn 2016 a bod cynllun newydd heb dargedau penodol.