Mae cynnig opsiwn uniaith Saesneg o gofnod ysgrifenedig cyfarfodydd llawn y Senedd yn “gamarweiniol ac yn artiffisial” meddai arbenigwr ar ddwyieithrwydd.
Ac ar wahân, mae Cymdeithas yr Iaith yn beirniadu’r ffaith bod cofnod y pwyllgorau yn cynnwys cyfieithu Cymraeg i Saesneg yn unig.
Dywedodd Comisiwn y Senedd – sy’n rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd – bod eu polisi cyfieithu yn “sicrhau gwasanaeth gwych a gwerth am arian i’r cyhoedd”.
Mae Cofnod y Trafodion yn drawsgrifiad gair am air o gyfarfodydd llawn y Senedd pan mae’r 60 AS yn cwrdd yn y Siambr, ac o gyfarfodydd pwyllgorau, fel Hansard yn San Steffan.
Ers 2016 mae’r Senedd yn cynnig yr opsiwn o ddarllen cofnod cyfarfodydd llawn yn Saesneg yn unig neu yn Gymraeg yn unig, yn ogystal â’r fformat dwyieithog.
Rhwng 1999 a 2016 bu’r Cynulliad, fel yr oedd yn cael ei alw bryd hynny, yn darparu’r cofnod o gyfarfodydd llawn yn y fformat dwyieithog yn unig, sef yr ieithoedd mewn colofnau cyfochrog, gyda’r iaith a gafodd ei llefaru ar y chwith a’r cyfieithiad ar y dde.
Os yw’r AS yn siarad Cymraeg mae’r cofnod yn ddwyieithog ar unwaith, ond ar gyfer cyfraniadau Saesneg rhaid aros hyd at dri diwrnod gwaith ar gyfer y fersiwn derfynol gwbl ddwyieithog.
Dywedodd Dr Peredur Webb-Davies, uwch ddarlithydd mewn ieithyddiaeth ym mhrifysgol Bangor, y byddai’n “gwneud mwy o synnwyr i gael y fersiwn dwyieithog yn unig, am ei fod yn cyfleu amgylchedd ieithyddol y Senedd a Chymru, ac yn fwy defnyddiol”.