Mae’r llywodraeth yn ystyried mai’r cyfrifiad o’r boblogaeth ydy’r ffynhonnell allweddol ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Ond mae’r Arolwg yn ffynhonnell ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg rhwng cyfrifiadau.
Mae’r arolwg blynyddol o’r boblogaeth yn arolwg ledled y Deyrnas Unedig a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Esboniodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth y BBC mai’r sampl ar gyfer y cwestiynau ar yr iaith Gymraeg oedd 14,881.
Mae’r arolwg wedi gweld gostyngiad ym maint y sampl dros y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae’n dal yn briodol defnyddio’r ystadegau hyn, fodd bynnag, mae ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy’n deillio o’r ABB, a dylid ystyried ffigyrau’r ABB ochr yn ochr â data eraill ar siaradwyr Cymraeg.”