“Mae’r pen eu hunain yn cael eu gwneud allan o gorn a’r goes rhan amlaf allan o gyll neu bren ffrwythau,” meddai.
“Mae’r rhan fwyaf o’r ffyn dwi’n gwneud efo cysylltiad â chefn gwlad.
“Erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o’n ngwaith i yn mynd allan i Ewrop ac ehangach.”
Does dim dal pwy fydd yn gofyn am ffon, mae Dafydd wedi creu ffyn ar gyfer sawl person enwog, gan gynnwys Archesgob Caergrawnt, Rowan Williams.
Mae hefyd wedi cael ceisiadau ac archebion gan y teulu brenhinol, sy’n foment balch iawn iddo.
“Dwi wedi gwneud gwaith i’r Brenin pan oedd yn Dywysog Cymru.
“Fe wnes i ffyn iddo fe yn bresanta’ Nadolig i’w Dad a’i feibion,” meddai.