Llai na thair milltir o Faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni ym Maldwyn, mae pentref Pontrobert.
Pentref bychain ond sydd â phersonoliaeth fawr yn yr ysgol gynradd yno.
Mae 67 o blant wedi bod yn brysur yn creu arwyddion a phosteri i groesawu pobl i ardal Eisteddfod yr Urdd eleni.
Yn ogystal â’u dawn greadigol ac artistig, mae rhai o ddisgyblion yr ysgol hefyd wedi rhoi cyflwyniad o’u hardal a’i hanes.
Gwyliwch y fideo uchod i ddysgu mwy am Bontrobert a pham fod hanes y pentref mor bwysig i Fro Eisteddfod yr Urdd eleni.
Bydd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn yn cael ei gynnal ar fferm Mathrafal rhwng 27 Mai ac 1 Mehefin, 2024, gyda’r disgwyl y bydd 90,000 o ymwelwyr yn ymweld.