Mae Mr Riddell, o Rondda Cynon Taf, wedi cael ei gyhuddo o 38 o droseddau, gan gynnwys tri chyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferch o dan 16 ac un cyhuddiad o geisio ymosod yn anweddus ar ferch o dan 16 oed.
Mae’r cyhuddiadau hefyd yn cynnwys 14 cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen o dan 14 oed.
Mae hefyd wedi cael ei gyhuddo o 20 achos o ymosod, cam-drin, esgeulustod, gadael plentyn, peri i berson ifanc gael dioddefaint diangen, ac achosi anaf.
Mae Mr Griffiths, o Flaenau Gwent, wedi cael ei gyhuddo o saith cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen o dan 14 oed.
Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â 16 o ddioddefwyr.
Ar y pryd, hen Gyngor Sir Gwent oedd yn gyfrifol am y ganolfan ac mae wedi bod ar gau ers 1995.
Mae’r Ditectif Uwcharolygydd Andrew Tuck o Heddlu Gwent wedi annog y cyhoedd i barchu’r broses gyfreithiol ac i beidio dyfalu ar-lein am yr achos.