Mae menyw 45 oed wedi cael ei chyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yng nghanol Pontypridd fore Mawrth.
Cafodd Heddlu’r De eu galw i’r digwyddiad ar y ffordd rhwng adeiladau’r Gwasanaeth Prawf a Kwik Fit yn y dref am tua 09:00 yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.
Mae dyn 58 oed o Pentre yn parhau yn yr ysbyty ar ôl iddo gael ei anafu yn y digwyddiad.
Mae Rayal Milne, sy’n dod o Bontypridd, wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio, ac mae disgwyl iddi ymddangos yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Iau.
Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw’n edrych am unrhyw un arall yn gysylltiedig â’r achos, ac maen nhw wedi diolch i aelodau o’r cyhoedd sydd wedi cefnogi’r ymchwiliad.